Sefydlwyd Cyfathrebiadau Diogelwch a Sicrwydd Traws-sector (CDST) yng Nghymru yn 2017, i gydnabod yr angen ar gyfer gwell partneriaethau cyfathrebu rhwng sectorau preifat a chyhoeddus adeg argyfwng, a throsglwyddo negeseuon pwysig i’r cymunedau busnes.
Mae CDST Cymru yn hwyluso rhannu gwybodaeth am ddiogelwch, diogeledd a chadernid ddwy ffordd rhwng sectorau preifat a chyhoeddus fel bod busnesau’n medru gwneud penderfyniadau priodol gwybodus a pharhau â’u busnes a chadw eu gweithwyr, asedau, a’u cwsmeriaid yn ddiogel. Medrwn sicrhau bod llais awdurdodol yn rhoi neges glir i fusnesau pan mae digwyddiadau’n digwydd sy’n effeithio ar fusnesau.
Mae CDST Cymru wrthi’n adeiladu rhwydwaith o Arweinwyr Sector Diwydiant (ASD) a fydd yn gyfrifol am raeadru gwybodaeth i gydweithwyr sector diwydiant yng Nghymru. Gall busnesau a sefydliadau ymuno â CDST er mwyn derbyn negeseuon, neu wneud cais i fod yn ASD drwy gwblhau ffurflen gofrestru ar-lein. (Dolen)
Mae gan CDST Cymru gefnogaeth partneriaid sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru, gan gynnwys yr Heddlu, Fforymau Cydnerthedd Lleol, Adnoddau Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac amrediad o fusnesau a diwydiannau yng Nghymru. Mae nifer o Arweinwyr Sector Diwydiant eisoes wedi’u nodi sydd wedi cytuno i gynrychioli eu sector diwydiant a rhannu negeseuon CDST Cymru â’u rhwydweithiau.
Bydd Bwrdd Uwch Reolwyr a grëwyd o’r sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru’n rhedeg CDST Cymru.